Message from St.David 2008 |
![]() |
![]() |
![]() |
NEGES WˆYL DDEWI I’R SENEDD Gyda phleser mawr yr anfonaf ddymuniadau da a gweddïau, ar fy rhan i fy hun ac ar ran Esgobaeth Tyddewi, ar Wˆyl Ddewi 2008. Y mae Gwˆyl Ddewi yn achlysur arbennig o bwysig i holl bobl Cymru, beth bynnag eu ffydd, eu cefndir a’u cred. Yr wyf yn llongyfarch y Prif Weinidog a’r Dirprwy Brif Weinidog yn eu swyddi allweddol yn llywodraeth glymblaid newydd Cymru. Cefais y pleser o arwain Esgobion yr Eglwys yng Nghymru i fabwysiadu cyfres o gynlluniau ledled Cymru wedi eu sylfaenu ar fframwaith strategol Cymru’n Un. Yr ydym o ddifrif ynglyˆn â Cymru’n Un, ac yr ydym yn sicrhau holl aelodau’r cabinet a’r Cynulliad o’n cefnogaeth wrth wynebu’r sialensau sydd o’n blaen. Yr oedd Dewi yn ymroddedig i’r bobl y cyfarfu â hwy ac y bu’n eu gwasanaethu, a chymerai o ddifrif fanylion bychain eu sefyllfaoedd a’u hanghenion. Y mae ein cyfres o gynlluniau ni yn ein rhwymo fel eglwys i gydweithio â chwi a chydag Awdurdodau Lleol ac asiantaethau eraill i gynorthwyo i roi sylw i anghenion economaidd a chymdeithasol ac amgylcheddol cymunedau lleol ledled Cymru. Dymunwn yn dda i chwi, eich cydweithwyr a’ch llywodraeth, yn eich cyfrifoldebau hollbwysig fel arweinwyr, ac edrychwn ymlaen at gydweithio â chwi mewn ffyrdd newydd yn y dyfodol. ST DAVID’S DAY MESSAGE TO THE SENNEDD I have great pleasure in sending good wishes and prayers on behalf of myself and the Diocese of St David’s on this St. David’s day 2008 – which carries special importance for all people in Wales, whatever their faith or other background and beliefs. I congratulate the First Minister and the Deputy First Minister in their key roles within a new coalition Government in Wales. I have had the pleasure of leading the Bishops of the Church in Wales into adopting a new roadmap of involvements across Wales based on the strategic framework of ‘One Wales.’ We are taking One Wales very seriously and assure all cabinet members and Assembly members of our support in the challenges that lie ahead. St. David was committed to the people he met and served and took the small details of their situation and needs very seriously. Our road map commits us, as a church to working with you, with Local Authorities and other agencies to help address the economic, social and environmental needs of local communities across Wales. We wish your colleagues and your government well in their crucial leadership responsibilities and look forward to working with you in new ways in the future.
|