The St.David's Day Parade - Cymraeg |
![]() |
![]() |
![]() |
Page 2 of 2 Arwyddocad Dydd Gŵyl DewiErs canrifoedd mae'r cyntaf o Fawrth wedi bod yn wyl genedlaethol; yn draddodiadol mae'r cyntaf o Fawrth 589 AD yn cael ei gofio fel dyddiad marwolaeth Dewi Sant. Cafodd Dewi ei wneud yn nawdd sant i ni yng Nghymru bron i fil o flynyddoedd yn ol yn ystod uchafbwynt rhyfel y Cymry yn erbyn byddinoedd Edward y Cyntaf. Heddiw mae pawb sydd a chysylltiadau Cymreig yn ei dathlu ar y cyntaf o Fawrth; llynedd yn yr Unol Daleithiau cafodd Dydd Gwyl Dewi ei adnabod yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar y cyntaf o Fawrth cafodd yr 'Empire State Building' eu oleuo yn lliwiau baner Cymru. Mae cymdeithasau Cymreig drwy'r byd o Batagonia i Siberia yn dathlu drwy gynnal ciniawau, partion a chyngerddau. Dyma'r diwrnod lle yr ydym yn gwisgo cenhinen neu cenhinen Bedr (y draddodiad yn mynd yn ol i'r Canol Oesoedd, pan benderfynodd byddin Cymru i wahaniaethu eu hun o'i gelyn drwy wisgo cennin ar eu capiau). Mae Dewi Sant yn arwr sydd uwchlaw gwleidyddiaeth a ddadlau dibwys, yn symbol o garedigrwydd mewn byd hunanol, yn symbol o Gymreictod i uno'r Cymry. Yn Yr Armes Prydain, epig a ysgrifennwyd dros fil o flynyddoedd yn ol fedr gweld y proffwydoliaeth o'r Cymry yn uno tu ol i Dewi Sant fel eu arweinydd: 'A lluman glân Dewi a ddyrchafant' |