Who was St.David? - Cymraeg |
![]() |
![]() |
![]() |
Page 2 of 2 Dewi Sant Pwy oedd Dewi Sant? Ganwyd Dewi Sant tuag at ddiwedd y bumed ganrif, llai na chant o flynyddoedd wedi i'r olaf o lengoed Rhufain adael Cymru. Tad Dewi oedd Sant, etifedd teulu brenhinol Ceredigion, a'i fam oedd Non, merch i Gynyr o Caio, enw sydd yn cael ei gofio mewn nifer o eglwysydd a ffynhonau sanctaidd yng Nghymru, Cernyw a Llydaw. Cafodd Dewi ei addysg yn Henfynyw yng Ngheredigion, lle ddysgodd y wyddor, y salmau a'r llithoedd ar gyfer y flwyddyn eglwysig. Sylfaenodd gymdeithas mynachaidd Geltaidd yng Nglyn Rhosyn, ar arfordir gorllewinol Sir Benfro, yn y man lle sefir Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Mae'n bosib i'r safle fod yn gartref i gymuned crefyddol gynnar iawn. Mae Sant Padrig hefyd yn gysylltiedig gyda'r safle, gannwyd Sant Padrig yn Ne Cymru, a dywedyd iddo dreulio ychydig o amser yng Nglyn Rhosyn cyn hwylio i Iwerddon o Borth Mawr. Tyfodd enwogrwydd Dewi fel athro drwy'r byd Geltaidd. Roedd Dewi yn byw bywyd llym, fel pob mynach Celtaidd arall - yn wir cafodd y llysenw Dewi Ddyfrwr. Mae yna nifer fawr o chwedlau yn ymwneud a Dewi. Efallai mai'r enwocaf yw y bregeth yn Llanddewi Brefi yng Ngheredigion, pan yn annerch y dorf enfawr fe gododd y tir o dan ei draed er mwyn bod pawb yn gallu clywed ef yn siarad. Dywedid i golomen pig-aur lanio ar ei ysgwydd fel symbol o'i sancteiddrwydd. Daeth y sefydliad yng Nglyn Rhosyn yn un o'r mannau cysegredig mwyaf pwysig yn y byd Cristnogol, ac yn sicr yr un fwyaf pwysig yng Nghymru: roedd llwybrau a heolydd drwy Gymru gyfan yn arwain tuag ato, ac yn y canol oesoedd roedd dau bererindod i Tyddewi yn cyfateb i un pererindod i Rhufain. Felly daeth Glyn Rhosyn yn ganolbwynt i ddyheadau crefyddol y genedl Gymreig a fel ysgrifennodd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis): 'Fe ddaeth Esgobaeth Tyddewi …yn symbol o annibyniaeth Cymru…a dyna paham y dyrchafwyd Dewi ei hun i fod yn Nawdd sant Cymru.' Mae Mawrth y cyntaf wedi ei gofnodi fel dyddiad marwolaeth Dewi Sant, ond mae yna ansicrwydd ynglyn a'r flwyddyn - mae 589 yn bosibilrwydd. Wrth i'r mynachod yn Nglyn Rhosyn baratoi ar gyfer ei farwolaeth, dywedodd Dewi wrthynt: 'Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi.' |