|
Pam Gorymdaith?
Fe fydd y safle yma yn newid yn rheolaidd cyn y dydd ei hun-gwenewch yn siwr eich bod yn edrych am newidiadau o dro i dro. Ymdaith Dydd Gŵyl Dewi?
Caerdydd yw ein prif ddinas a'r ddinas fwyaf yng Nghymru; does yr un man yn fwy addas i gael gorymdaith o Gymreictod. Fydd achlysur o'r fath yn rhoi hwb economaidd i'r ddinas, ac yn annog mwy o ymwelwyr i'r ddinas ac i'n cenedl. Ein gobaith yw bydd trefi a dinasoedd arall yn ymuno gyda ni i greu digwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Ers canrifoedd mae'r cyntaf o Fawrth wedi bod yn wyl genedlaethol; yn draddodiadol mae'r cyntaf o Fawrth 589 AD yn cael ei gofio fel dyddiad marwolaeth Dewi Sant. Cafodd Dewi ei wneud yn nawdd sant i ni yng Nghymru bron i fil o flynyddoedd yn ol yn ystod uchafbwynt rhyfel y Cymry yn erbyn byddinoedd Edward y Cyntaf. Heddiw mae pawb sydd a chysylltiadau Cymreig yn ei dathlu ar y cyntaf o Fawrth; llynedd yn yr Unol Daleithiau cafodd Dydd Gwyl Dewi ei adnabod yn swyddogol fel diwrnod cenedlaethol y Cymry, ac ar y cyntaf o Fawrth cafodd yr 'Empire State Building' eu oleuo yn lliwiau baner Cymru. Mae cymdeithasau Cymreig drwy'r byd o Batagonia i Siberia yn dathlu drwy gynnal ciniawau, partion a chyngerddau. Dyma'r diwrnod lle yr ydym yn gwisgo cenhinen neu cenhinen Bedr (y draddodiad yn mynd yn ol i'r Canol Oesoedd, pan benderfynodd byddin Cymru i wahaniaethu eu hun o'i gelyn drwy wisgo cennin ar eu capiau). Mae Dewi Sant yn arwr sydd uwchlaw gwleidyddiaeth a ddadlau dibwys, yn symbol o garedigrwydd mewn byd hunanol, yn symbol o Gymreictod i uno'r Cymry. Yn Yr Armes Prydain, epig a ysgrifennwyd dros fil o flynyddoedd yn ol fedr gweld y proffwydoliaeth o'r Cymry yn uno tu ol i Dewi Sant fel eu arweinydd: 'A lluman glân Dewi a ddyrchafant' Pwy oedd Dewi Sant? Ganwyd Dewi Sant tuag at ddiwedd y bumed ganrif, llai na chant o flynyddoedd wedi i'r olaf o lengoed Rhufain adael Cymru. Tad Dewi oedd Sant, etifedd teulu brenhinol Ceredigion, a'i fam oedd Non, merch i Gynyr o Caio, enw sydd yn cael ei gofio mewn nifer o eglwysydd a ffynhonau sanctaidd yng Nghymru, Cernyw a Llydaw. Cafodd Dewi ei addysg yn Henfynyw yng Ngheredigion, lle ddysgodd y wyddor, y salmau a'r llithoedd ar gyfer y flwyddyn eglwysig. Sylfaenodd gymdeithas mynachaidd Geltaidd yng Nglyn Rhosyn, ar arfordir gorllewinol Sir Benfro, yn y man lle sefir Eglwys Gadeiriol Tyddewi heddiw. Mae'n bosib i'r safle fod yn gartref i gymuned crefyddol gynnar iawn. Mae Sant Padrig hefyd yn gysylltiedig gyda'r safle, gannwyd Sant Padrig yn Ne Cymru, a dywedyd iddo dreulio ychydig o amser yng Nglyn Rhosyn cyn hwylio i Iwerddon o Borth Mawr. Tyfodd enwogrwydd Dewi fel athro drwy'r byd Geltaidd. Roedd Dewi yn byw bywyd llym, fel pob mynach Celtaidd arall - yn wir cafodd y llysenw Dewi Ddyfrwr. Mae yna nifer fawr o chwedlau yn ymwneud a Dewi. Efallai mai'r enwocaf yw y bregeth yn Llanddewi Brefi yng Ngheredigion, pan yn annerch y dorf enfawr fe gododd y tir o dan ei draed er mwyn bod pawb yn gallu clywed ef yn siarad. Dywedid i golomen pig-aur lanio ar ei ysgwydd fel symbol o'i sancteiddrwydd. Daeth y sefydliad yng Nglyn Rhosyn yn un o'r mannau cysegredig mwyaf pwysig yn y byd Cristnogol, ac yn sicr yr un fwyaf pwysig yng Nghymru: roedd llwybrau a heolydd drwy Gymru gyfan yn arwain tuag ato, ac yn y canol oesoedd roedd dau bererindod i Tyddewi yn cyfateb i un pererindod i Rhufain. Felly daeth Glyn Rhosyn yn ganolbwynt i ddyheadau crefyddol y genedl Gymreig a fel ysgrifennodd Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis): 'Fe ddaeth Esgobaeth Tyddewi …yn symbol o annibyniaeth Cymru…a dyna paham y dyrchafwyd Dewi ei hun i fod yn Nawdd sant Cymru.' Mae Mawrth y cyntaf wedi ei gofnodi fel dyddiad marwolaeth Dewi Sant, ond mae yna ansicrwydd ynglyn a'r flwyddyn - mae 589 yn bosibilrwydd. Wrth i'r mynachod yn Nglyn Rhosyn baratoi ar gyfer ei farwolaeth, dywedodd Dewi wrthynt: 'Frodyr a chwiorydd, byddwch lawen a gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf fi.' Fe fydd yr orymdaith yn cael ei gynnal ar yr cyntaf o Fis Mawrth, ar Ddydd Gwyl Dewi. Fe fydd yr orymdaith yn gadael Yr Amguedfa Genedlaethol am 1.0 o'r gloch ar Dydd Sul, Mawrth y 1af, ac fe fydd y llwybr yn mynd drwy ganol Caerdydd ac wedyn lawr i'r Senedd yn y Bae. Gweler y map. Ymunwch yn y Gorymdaith fel unigolyn neu fel rhan o grwp. Os oes gennych fand, cor neu grwp dawns, mae croeso arbennig i chi ymuno. Mae achlysur fel hon yn cymryd amser ac arian. Rydym yn ddiolchgar am unrhyw gymorth ariannol neu nawdd. I helpu gyda rhodd, neu i fod yn noddwr fusnes cliciwch yma C: Sut ydw i'n cymryd
rhan? C: Sut ydw i'n cyrraedd
y gorymdaith? C: Ydy'r dydd yn dod
i ben gyda diwedd y gorymdaith?
|